Siaradodd tîm Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru â Wales Online yn ddiweddar i godi ymwybyddiaeth ynghylch y tactegau a’r ecsbloetio annifyr a ddefnyddir gan fenthycwyr arian didrwydded yng Nghymru.
Mae'r erthygl yn tynnu sylw at straeon torcalonnus y rhai sy'n gaeth mewn cylch o ddyledion.
Dedfrydwyd benthyciwr arian didrwydded o Gwmbrân, Horrace Taylor, 73 oed, i 3 mis yn y carchar, wedi'i ohirio am ddwy flynedd, ar ôl pledio'n euog i fenthyca arian yn anghyfreithlon.
Roedd siarc benthyca 83 oed yn "manteisio ar bobl fregus" a byddai'n eu bygwth pe baen nhw'n methu ad-daliadau.
Mae dysgu eich plant am arian o oedran ifanc yn eu helpu i ddatblygu’r sgiliau y bydd eu hangen arnynt fel oedolion. Gallwn ddangos i chi sut i siarad â phlant 3 i 11 oed am arian.
Rhywbeth sy'n aml yn cael ei anwybyddu yw'r doll ariannol sy'n dod ynghyd â ddibyniaeth.
Eisiau clywed mwy am Atal Siarcod Benthyg Arian? Beth am wrando ar ein hymddangosiad ar y Podlediad “Holi’r Rheoleiddiwr”.
Mae ymchwil newydd*, a gomisiynwyd gan Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru a Llywodraeth Cymru, yn cadarnhau ofnau y gallai’r caledi ariannol presennol ysgogi mwy o bobl yng Nghymru i fenthyca gan fenthycwyr arian anghyfreithlon, a elwir yn fwy cyffredin fel siarcod arian.
Dywed 38% eu bod yn fwy tebygol o fod angen benthyg arian neu gredyd eleni i dalu costau bob dydd.
Roedd 50% o'r rhai oedd yn benthyca angen arian ar gyfer costau byw bob dydd; o'r rheini, 66% ar gyfer bwyd a 53% i dalu biliau ynni.
Pobl 18-34 oed sydd fwyaf agored i gael eu targedu gan fenthycwyr arian anghyfreithlon.
Mae Lee Phillips, Rheolwr Cymru i’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn taflu goleuni ar sut i fod mewn rheolaeth pan fyddwch yn benthyg arian, opsiynau i ystyried cyn defnyddio credyd neu gymryd benthyciad banc, a lle i ddod o hyd i gyngor a chefnogaeth, beth bynnag eich sefyllfa.
Heddiw, cafodd dyn o Lanelli ei ddedfrydu i 10 mis o garchar wedi'i ohirio am flwyddyn.
Ar 26 Awst 2022, plediodd Clayton Liston Rumbelow (49) o Lwynhendy, Llanelli yn euog i fenthyca arian yn anghyfreithlon hyd at werth o £100,000, yn ymwneud â thystiolaeth a ddarganfuwyd wrth weithredu gwarant yng nghyfeiriad cartref y diffynnydd.