Gwasanaeth Arian a Phensiynau Bydd Wythnos Siarad Arian 7 – 11 Tachwedd 2022.

Gwasanaeth Arian A Phensiynau siyn
November 7, 2022 9:40 am

Mae Lee Phillips, Rheolwr Cymru i’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn taflu goleuni ar sut i fod mewn rheolaeth pan fyddwch yn benthyg arian, opsiynau i ystyried cyn defnyddio credyd neu gymryd benthyciad banc, a lle i ddod o hyd i gyngor a chefnogaeth, beth bynnag eich sefyllfa.

Mae llawer yn y cyfryngau am gostau byw yn cynyddu, ond rydym yn gwybod gall ddal i fod yn anodd siarad am arian. Yr wythnos hon yw Wythnos Siarad Arian, lle rydym yn annog pobl i fod yn agored am eu cyllid: po fwyaf rydym yn siarad am arian, po leiaf o dabŵ bydd. Dyna pam mae’n bleser gennyf allu gweithio gyda Stop Loan Sharks Wales i siarad am arian. Yn benodol, benthyg arian.

Bydd angen ar bron pob un ohonom fenthyg arian ar ryw adeg yn ein bywydau. Mae Arolwg Lles Ariannol Oedolion 2021 MaPS yn dweud wrthym fod 20% o oedolion yng Nghymru yn aml yn defnyddio cerdyn credyd, gorddrafft neu’n benthyg arian i brynu bwyd neu dalu biliau gan eu bod wedi rhedeg yn fyr o arian.

Am bobl sy’n rhentu mae hwn yn cynyddu i 26% o bobl, ac mae 38% o bobl o gymunedau ethnig yn benthyg am arian bob-dydd. Mae hefyd yn dangos bod oedran yn gysylltiedig ag ymddygiadau benthyg, gyda phobl ifanc yn llawer mwy tebygol o fenthyg wrth gymharu â grwpiau hŷn.

Rydym yn gwybod bod 53% o oedolion yng Nghymru sydd gyda biliau neu ymrwymiadau credyd yn ei chael hi’n anodd cadw ar ben bethau, yn methu, neu wedi cwympo ar ei hôl. Am rieni sengl mae hyn yn cynyddu i 89%, ac mae 59% o bobl gyda salwch hirdymor neu anabledd yn cael trafferth i gadw ar ben biliau.

Nid yw benthyg arian o reidrwydd yn rhywbeth gwael a gall ddefnyddio credyd mewn ffordd reoledig eich helpu i ddelio â gwariant annisgwyl. Fodd bynnag, mae pethau y mae’n rhaid i chi feddwl amdanynt i sicrhau eich bod yn gwneud y penderfyniad cywir.

Ystyriwch gan bwy rydych yn benthyg arian

Nid yw’n syniad da i fenthyg o fenthyciwr arian didrwydded: maent yn fenthycwyr anghyfreithlon. Rydych yn talu llawer mwy mewn llog nag y byddwch trwy fenthyg cyfreithlon, gallech gael eich aflonyddu neu’ch bygwth os byddwch yn cwympo ar eihôl gyda’ch ad-daliadau, ac efallai byddwch dan bwysau i fenthyg mwy o arian i ad-dalu un benthyciad gydag un arall ac yn y pen draw caek eich hun mewn patrwm o ddyled na allwch fyth ei ad-dalu. Rwyf wedi gweithio gyda Stop Loan Sharks Wales ers 2008 ac mae nifer o bethau rwyf wedi dysgu ganddynt. Mae tri pheth sy’n aros gyda fi:

Y cyntaf yw pan rydym yn siarad am fenthyg arian o ‘deulu neu ffrindiau’, dyna’n union sut mae benthyciwr arian didrwydded yn lleoli’u hunain.

Yr ail beth yw nad oes y fath beth â benthyciwr arian didrwydded tebygol. Gallent fod yn ddyn, menyw, hen, ifanc, yn dod o’ch cymuned, wrth y gât ysgol, yn y tafarn. Maent yn bobl gyfeillgar a chymwynasgar sy’n cynnig benthyciad i chi heb waith papur ac fel arfer mewn arian parod.

Y trydydd peth rwyf wastad yn ei gofio yw os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod yn ddioddef o fenthyciwr arian didrwydded, cysylltwch â thîm Stop Loan Sharks Wales. Byddent yn gwirio’r sefyllfa, rhoi cymorth i ddioddefwyr, ac efallai gallent adeiladu achos yn erbyn y benthyciwr arian didrwydded i’w arestio – ac wrth gwrs, efallai na fydd angen ad-dalu benthyciadau anghyfreithlon.

Cyn gwneud cais am gredyd neu fenthyciad banc, gwiriwch pa fudd-daliadau mae gennych hawl iddynt

Cyn benthyg arian, dylech wirio a oes unrhyw fudd-daliadau gallwch fod â hawl iddynt a all cynyddu eich incwm wythnosol. Mae llawer o bobl yn anymwybodol y gallent fod â hawl i fudd-daliadau a all cynnig y cymorth sydd ei angen arnynt. Os ydych yn ansicr am ba fudd-daliadau gallwch wneud cais amdanynt, gall Advicelink Cymru eich helpu i wirio a hawlio beth y mae gennych hawl iddo.

Efallai byddwch am ystyried a ydych yn gymwys am Gronfa Cymorth Ddewisol (DAF) Llywodraeth Cymru. Mae DAF yn darparu grantiau i bobl yng Nghymru sydd wedi profi argyfwng neu drychineb; neu angen help i fyw’n annibynnol yn y gymuned. Os oes gennych hawl i’r gronfa, nid oes swm penodedig byddwch yn ei dderbyn. Bydd hwn yn dibynnu ar eich anghenion ac ni fydd angen ei ad-dalu.

Gofynnwch rai cwestiynau i’ch hun

Os ydych angen benthyg arian, mae sawl cwestiwn cyflym ond bwysig mae’n rhaid eu gofyn i’ch hun cyn i chi symud ymlaen.

  • A oes wir angen gwario’r arian nawr?
  • A yw’r peth rydych yn ei brynu neu am dalu amdano ar gredyd wir yn hanfodol?
  • A allwch fyw hebddo?
  • A yw’n bosibl gohirio’r pryniad?
  • Os gallwch aros nes y gallwch ei fforddio, bydd yn costio llawer yn llai.

Deall eich opsiynau

Os oes angen i chi fenthyg arian ar ôl hyn i gyd, mae’n bwysig deall faint mae’r opsiynau gwahanol yn costio a sut y maent yn gweithio. Mae llawer o ffyrdd o fenthyg arian, ac mae ganddynt nodweddion gwahanol. Gall wybod beth sydd orau am eich sefyllfa benodol fod yn anodd.

Mae gan wefan HelpwrArian, sy’n darparu cyngor arian diduedd ac am ddim sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth, ganllawiau hawdd ei ddeall ar bob agwedd o gredyd gan gynnwys sut mae cynnyrch gwahanol yn gweithio. Gallwch hefyd ddarganfod ffyrdd amgen i fenthyg fel undebau credyd neu drwy gynlluniau cyflogwyr.

Mae hefyd cyngor ar brynu nawr talu wedyn, gwystlwyr, credyd cartref, cardiau siop a chatalog, cardiau credyd a gorddrafftiau, yn ogystal â gwybodaeth am bryd ddylech fod yn ofalus gyda chynnyrch credyd.

Gall cost benthyg amrywio yn dibynnu ar y swm rydych yn ei fenthyg ac am faint o amser. Gallwch fforddio ei ad-dalu? Cyfrifwch faint gallwch fforddio ei ad-dalu bob wythnos neu fis a gosodwch gyllideb sy’n cynnwys ad-daliadau realistig i’ch hun.

Gwybod ble i droi am help

Os ydych yn benthyg arian i brynu hanfodion, fel rhent, bwyd neu filiau cartref, efallai ei fod yn arwydd bod angen help arnoch i fynd yn ôl ar y trywydd iawn. Nid oes angen i chi frwydro ar eich pen eich hun. Gall siarad â chynghorydd dyled profiadol a hyfforddedig eich helpu i weld beth allai fod yr opsiwn cywir i chi. Gallwch ddefnyddio teclyn lleolwr cyngor ar ddyledion HelpwrArian i ddod o hyd i’r gefnogaeth gywir am eich anghenion.

 

Defnyddio HelpwrArian

Mae HelpwrArian yma i wneud eich dewisiadau arian a phensiynau’n gliriach. Yma i dorri trwy’r cymhlethdod, esbonio beth sydd angen i chi ei wneud a sut i’w wneud. Mae’n eich rhoi mewn rheolaeth gyda chyngor diduedd sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth ac i argymell cymorth pellach gallwch ymddiried ynddo os oes angen.

Categorised in: