

Pecyn Cyfryngau Cymdeithasol
Rydym wedi cynhyrchu amrywiaeth o gynnwys a fydd yn eich helpu i rannu neges Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru, ac i roi gwell dealltwriaeth i’ch dilynwyr o beth yw siarc benthyg arian a ble i gael help a chefnogaeth.
Cysylltwch â ni i gael cyfarwyddiadau ar sut i lawr lwytho.

Gwersi am gadw’n harian yn ddiogel
Os ydych yn athro sy’n ceisio hyrwyddo sgiliau rheoli arian mewn pobl ifanc, gallwch ddefnyddio’r adnoddau addysgol a ddatblygwyd gennym ar y cyd â gweithwyr addysgol proffesiynol.
Mae’r adnoddau’n cyfrannu at amrywiaeth o feysydd cwricwlwm, fel Mathemateg, Saesneg, ABGI, Drama, Celf a Dylunio a gellir eu defnyddio ym mhob cyfnod allweddol. Maent yn cynnwys cynlluniau gwersi a fideos i gyflawni amcanion dysgu craidd y fframweithiau cynllunio cynradd ac uwchradd.
Cynnwys ysgolion cynradd
- Cadw eich arian yn ddiogel.
- O ble mae arian yn dod.
- A’r gwahaniaeth rhwng angen ac eisiau.
- Y syniad o gynilo, benthyca a benthyg.
Cynnwys ysgolion uwchradd
- Benthyca a benthyg diogelach sy’n adlewyrchu amcanion gallu ariannol allweddol o ran pryd a sut i fenthyca.
- Gwerthoedd sy’n gysylltiedig ag arian.
- Cynilo a beth all fynd o’i le os nad ydych yn gwneud y dewis iawn.
- Credyd, siopa o gwmpas i gael y fargen gredyd orau.
- A pheryglon benthyca gan siarcod benthyg arian.

A yw eich benthyciwr yn gyfreithlon?
Os yw rhywun yn benthyg arian i chi, rhaid iddo fod wedi’u cofrestru gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Chwiliwch eu cronfa ddata i weld a yw’r benthyciwr yn gyfreithlon neu ffoniwch ni ar 0300 123 1133 a byddwn yn helpu.

Mae Undebau Credyd Cymru yn grŵp o fentrau ariannol cydweithredol sy’n cydweithio i greu mynediad at gredydau fforddiadwy a chynilion moesegol yma yng Nghymru.
Mae’n hawdd agor cyfrif cynilo a chael mynediad at fenthyciadau fforddiadwy cyflym o gyn lleied â £100.
Dysgwch fwy yma.

Moneyworks Cymru
Mae Moneyworks Cymru yn gydweithrediad o fentrau ariannol cydweithredol nid-er-elw, sy’n gweithio gyda’i gilydd i adeiladu dyfodol ariannol mwy disglair i weithwyr Cymru.
Maen nhw’n cynnig benthyciadau fforddiadwy a chynilion syml trwy gyflogres, gan helpu i yrru arian yn ôl i’r cymunedau lleol rydyn ni’n eu gwasanaethu.
Dysgwch fwy yma.

Offer a Chyfrifianellau Fforddiadwyedd y Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Gallwch ddod o hyd i offer a chyfrifianellau hawdd eu defnyddio a fydd yn eich helpu i gyfrifo’r ffigurau sydd eu hangen arnoch yn gyflym ar gyfer rhai o’r sefyllfaoedd mwyaf cyffredin y gallech gael eich hun ynddynt o ran arian.
Gallwch ddod o hyd i gymorth yn ymwneud â chyllidebu, cynilo a lleihau costau. Gallant eich helpu i ddod o hyd i gynghorwyr diduedd, dod o hyd i faint y gallech ei gael wrth ymddeol, dweud wrthych faint o arian ychwanegol sydd ei angen arnoch ar gyfer eich babi a llawer mwy.
Dysgwch fwy yma.