Y cam cyntaf yw’r anoddaf. Efallai byddwch yn teimlo cywilydd neu’n poeni am beth fydd yn digwydd. Cysylltu â ni yw’r peth iawn i wneud. Cofiwch nad ydych mewn trwbl os ydych wedi benthyg arian gan siarc benthyg arian. Os yw’n ddyled anghyfreithlon efallai na fydd yn rhaid i chi ei thalu’n ôl hyd yn oed.
Cysylltwch â ni yn gyfrinachol i gael cyngor neu i roi gwybod am siarc benthyg arian. Mae popeth rydych yn ei ddweud wrthym yn gyfrinachol, ond nid oes angen i chi roi unrhyw fanylion personol.
Ffoniwch 999 os ydych mewn perygl
Beth sy’n digwydd nesaf?
Ar ôl i chi gysylltu â ni, bydd un o swyddogion cyswllt ein tîm yn cysylltu â chi i siarad am eich sefyllfa yn fanylach.
Gall y swyddog cyswllt hefyd eich helpu gyda materion tai neu ddyled, atgyfeiriadau am broblemau iechyd a chyngor ar fenthyg arian yn ddiogel.
Os oes angen, gall ymchwilydd siarad â chi am eich profiadau. Bydd swyddog cyswllt yn eich cefnogi ar bob cam drwy gydol y broses gyfan.