Os ydych yn poeni bod rhywun rydych yn ei nabod yn ymwneud â siarc benthyg arian, siaradwch â ni.

Rydym yma i helpu a chefnogi pryd bynnag y byddwch yn barod.

Mae rhai pethau y gallwch chi eu gwneud i’w helpu.

Gwrando

Rhowch amser iddynt siarad a pheidio â thorri ar draws. Gwrandewch yn ofalus heb feio. Gofynnwch iddynt a ydynt wedi dioddef unrhyw niwed corfforol.

Cydnabod

Cydnabyddwch y gallai hon fod yn sefyllfa frawychus ac anodd, efallai eu bod yn teimlo cywilydd wrth siarad amdani.

Tawelu Meddwl

Gadewch iddynt wybod nad ydynt ar eu pen eu hunain, a bod cymorth a chefnogaeth ar gael.

Cefnogi

Cefnogwch nhw i’n ffonio ac, os nad yw hynny’n bosibl, ffoniwch ni eich hun.

Os nad ydych yn siŵr a yw rhywun yn siarc benthyg arian, ffoniwch ein llinell gymorth 24 awr ar 0300 123 33 11 i siarad ag aelod o’n tîm ac i gael cyngor a chefnogaeth gyfrinachol.

Gallwch roi gwybod am y siarc benthyg arian yn ddienw, siarad am eich pryderon yn gyfrinachol neu gael gwybodaeth am y ffordd orau o helpu.