Mae’r faith bod dros filiwn o oedolion yn y DU wedi cael benthyg gan siarc benthyg arian ac yn dioddef o ganlyniad yn frawychus. Ers pandemig COVID-19, mae mwy o bobl wedi dod yn fregus yn ariannol neu’n profi gwaethygu yn eu sefyllfa ariannol. Wrth i’r argyfwng costau byw barhau, mae’n bosib y bydd mwy o bobl yn cael eu gorfodi i fynd i ddyled ac yn troi at gael benthyg gan fenthycwyr arian anghyfreithlon neu siarcod benthyg arian.

Mae Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru yn cael ei weithredu gan Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru.  Sefydlwyd ein tîm yn 2008, ac fel Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru ni yw’r asiantaeth sy’n ymchwilio i siarcod benthyg arian a’u herlyn ledled Cymru – yn ogystal ag amddiffyn a chefnogi pobl sydd wedi benthyg arian gan siarcod benthyg. Mae Llywodraeth y DU yn ein hariannu i gyflawni’r gwaith hanfodol hwn, gyda thîm o ymchwilwyr arbenigol a swyddogion cyswllt cleientiaid.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, yr heddlu, asiantaethau cynghori, elusennau, a darparwyr tai. Gyda’r partneriaid hyn, rydym yn codi ymwybyddiaeth o’r broblem siarcod benthyg arian, ac yn gweithio gyda nhw i gynorthwyo’r rhai a allai fod yn agored i weithgarwch siarcod benthyg arian, neu a allai fod eisoes wedi syrthio’n ysglyfaeth.

Ers 2008, rydym wedi cefnogi cannoedd o bobl sydd wedi dioddef o ganlyniad i’r drosedd hon, ac wedi dileu gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd o ddyled anghyfreithlon.

347 o Fenthycwyr Arian Anghyfreithlon a ddrwgdybir wedi'u nodi
Credwn fod tua 70,000 o bobl wedi dioddef drwy law siarcod benthyg arian yng Nghymru
3537 o ddioddefwyr wedi’u nodi
909 o ddioddefwyr wedi’u cefnogi’n uniongyrchol gan UBAAC
Dros £2,000,000 o ddyled wedi'i dileu

Cefnogi

Ein blaenoriaeth bob amser yw diogelwch a lles y bobl sydd wedi benthyg arian gan siarc benthyg arian. Mae gennym swyddogion arbenigol sy’n canolbwyntio ar gefnogi a chynorthwyo dioddefwyr y drosedd hon. Rydym yn annog ac yn cefnogi’r defnydd o gredyd fforddiadwy diogel, fel yr hyn a gynigir gan Undebau Credyd.

Erlyn

Rydym yn asiantaeth y llywodraeth sydd â’r dasg o ymchwilio i siarcod benthyg arian a’u herlyn yng Nghymru. Mae ein tîm o ymchwilwyr yn cynnwys ymchwilwyr ariannol arbenigol ac mae ganddo ystod eang o arbenigedd wrth gasglu tystiolaeth a fydd yn arwain at erlyn siarc benthyg yn llwyddiannus.

Hyfforddiant

Mae ein perthynas ag asiantaethau partner yn hanfodol i’n gwaith, a byddwn yn darparu hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth i sefydliadau am ddim. Cysylltwch â ni i drafod hyn!