Rydym yn gweithio gyda phartneriaid allweddol ledled Cymru i ymchwilio ac erlyn benthycwyr arian didrwydded, codi ymwybyddiaeth am fenthyca arian yn anghyfreithlon a chefnogi dioddefwyr.
Rydym yn cynnig hyfforddiant arbenigol am ddim ar sut i nodi gweithgarwch benthycwyr arian didrwydded ar gyfer sefydliadau partner. Yn ein tro, rydym yn cefnogi eu cleientiaid a’u cwsmeriaid, os ydynt wedi dioddef yn nwylo pobl yr amheuir eu bod yn benthyca arian yn anghyfreithlon. Mae ein partneriaid yn cynnwys:
Yr Heddlu
Mae benthyca arian yn anghyfreithlon yn drosedd, ac yn aml yn gysylltiedig â gweithgareddau troseddol eraill, gan gynnwys blacmel, aflonyddu ac ymosod.
Gan mai ni yw’r sefydliad sy’n ymchwilio ac erlyn benthycwyr arian didrwydded yng Nghymru, rydym yn gweithio gyda lluoedd yr Heddlu ledled y wlad i roi cymorth i ddioddefwyr benthycwyr arian didrwydded a dod â benthycwyr arian didrwydded o flaen eu gwell.
Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a thimau plismona’r gymdogaeth yw llygaid a chlustiau’r gymuned, ac rydym yn croesawu mewnbwn rheolaidd ganddynt am eu pryderon.

Safonau Masnach
Mae cysylltiad agos rhwng Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru a’r holl wasanaethau Safonau Masnach lleol ledled Cymru. Yn aml iawn mae benthycwyr arian didrwydded yn gysylltiedig â throseddoldeb arall sy’n cael ei reoleiddio gan Safonau Masnach. Mae enghreifftiau cyffredin yn cynnwys nwyddau ffug a thybaco.
Tai cymdeithasol
Mae cymdeithasau tai yn rheoli’r gwaith o rentu eiddo i’w tenantiaid ochr yn ochr ag Awdurdodau Lleol. Rydym yn gweithio gyda staff sy’n delio ag ôl-ddyledion rhent a’r rhai sy’n cefnogi tenantiaid sy’n agored i niwed sydd mewn perygl o droseddoldeb benthycwyr arian didrwydded. Mae tenantiaid sy’n cael eu targedu gan fenthycwyr arian didrwydded yn debygol o fod mewn mwy o berygl o gronni ôl-ddyledion rhent.
Gyda’n gilydd, gallwn gynorthwyo tenantiaid sydd wedi cael eu rheibio gan fenthyciwr arian didrwydded i ddiogelu tenantiaethau ac ôl-ddyledion rhent is.
Undebau Credyd
Mae gwasanaethau credyd diogel a fforddiadwy yn hanfodol, ac yn allweddol yn y gwaith o frwydro yn erbyn benthyca anghyfreithlon. Mae cefnogi’r mudiad undebau credyd yng Nghymru yn ein helpu i gysylltu â chymunedau lleol a hyrwyddo benthyciadau cyfrifol, moesegol.
Cyngor ar Bopeth
Ledled Cymru, mae Cyngor ar Bopeth ar y rheng flaen i gefnogi dinasyddion sydd â phroblemau ariannol a phroblemau eraill. Pan fydd Cyngor ar Bopeth yn nodi gweithgarwch benthyciwr arian didrwydded posibl, maent yn gweithio mewn partneriaeth gyda ni i gefnogi eu cleient yn y ffordd orau, a rhoi eu diogelwch yn gyntaf.
Llywodraeth Cymru
Diolch i’r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, rydym yn cefnogi gwahanol asiantaethau a rhwydweithiau, ac yn gweithredu yn unol ag agenda Trechu Tlodi Llywodraeth Cymru i gyrraedd cynifer o bobl yng Nghymru â phosibl.
Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru a’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau i gefnogi a diogelu pobl rhag benthyca arian yn anghyfreithlon, rydym yn cynorthwyo’r gwasanaeth i gynnig y cyngor a’r wybodaeth orau am y risgiau sy’n gysylltiedig â gweithgaredd benthycwyr arian didrwydded.

Adran Gwaith a Phensiynau
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cynghori pobl sy’n cael trafferth i gael gwaith ac yn eu cefnogi. Yn aml, mae’r problemau sy’n eu hwynebu yn rhai ariannol, gan eu gwneud yn darged i fenthycwyr arian didrwydded. Rydym yn cynorthwyo’r Adran Gwaith a Phensiynau ac asiantaethau eraill y llywodraeth gyda’n harbenigedd i gefnogi pobl sy’n agored i niwed.
Sector Elusennau
Mae elusennau’n gwneud gwaith anhygoel ledled Cymru i gefnogi pobl sy’n agored i niwed oherwydd cyflyrau iechyd, dibyniaeth ar sylweddau, neu lawer o amgylchiadau personol heriol eraill.
Rydym yn gweithio gyda llawer o elusennau gwahanol ac yn rhoi cymorth a chyngor wedi’u teilwra iddynt, fel y gall eu gweithwyr rheng flaen a’u gwirfoddolwyr gynorthwyo eu defnyddwyr gwasanaeth yn y ffordd orau.