Rydym yn gweithio gydag elusennau, awdurdodau lleol, asiantaethau cyngor a chymorth, undebau credyd, darparwyr tai a sefydliadau eraill i godi ymwybyddiaeth o siarcod benthyg arian.

Os ydych yn weithiwr cymorth, ymgynghorydd neu weithiwr rheng flaen, gallwch gael hyfforddiant am ddim i’ch helpu i adnabod gweithgarwch siarcod benthyg arian ac i nodi dioddefwyr posibl.

Byddwch yn datblygu:

  • ymwybyddiaeth ehangach o effaith benthyca arian anghyfreithlon ar bobl sy’n agored i niwed,
  • y gallu i ofyn am gymorth a chyngor arbenigol, a
  • hyder i nodi arwyddion bod pobl yn cael eu targedu gan siarcod benthyg arian.

Caiff eich hyfforddiant ei deilwra i ofynion eich sefydliad. Gallwch wneud yr hyfforddiant dros sawl diwrnod, mewn sesiynau un awr neu sesiynau byrrach os nad oes llawer o amser gennych a gallwch ei wneud wyneb yn wyneb neu’n rhithwir, pa bynnag ffordd sy’n addas i chi.

Cysylltwch â ni ar i gael mwy o wybodaeth.