Heddiw, cafodd dyn o Lanelli ei ddedfrydu i 10 mis o garchar wedi’i ohirio am flwyddyn.
Ar 26 Awst 2022, plediodd Clayton Liston Rumbelow (49) o Lwynhendy, Llanelli yn euog i fenthyca arian yn anghyfreithlon hyd at werth o £100,000, yn ymwneud â thystiolaeth a ddarganfuwyd wrth weithredu gwarant yng nghyfeiriad cartref y diffynnydd.
Datguddiwyd bywyd afradlon Rumbelow a’i wraig gan ymchwilwyr, a ddaeth i’r casgliad nad oedd modd rhoi cyfrif am arferion gwario’r cwpl drwy incwm cyfreithlon. Roedd y gwariant hwn yn cynnwys:
- Mesurau diogelwch cartref – £4,500
- Addurniadau gardd a dodrefn – dros £2,000
- Dau gerbyd – gwerth cyfunol o £42,000
- Gwyliau dramor – £27,788.83
- Cyfnewid arian i’w wario ar wyliau – £5,483.39
- Gamblo rheolaidd dros y rhyngrwyd dros bum mlynedd – cyfanswm colled o £28,715.53
Rhwng 2013 a 2019 derbyniodd cyfrif banc y diffynnydd gannoedd o flaendaliadau arian parod gwerth £124,308.53 o ffynonellau anhysbys – byddai’r unig incwm cyfreithlon a dderbyniodd y diffynnydd a’i wraig wedi dod i £1,080 y mis drwy fudd-daliadau.
Wrth chwilio ei gartref, atafaelwyd nifer o eitemau gan gynnwys dros £5,000 mewn arian parod, bat pêl fas a ganfuwyd y tu mewn i’w Range Rover, dwy reiffl awyr a nifer o nwyddau ffug sydd wedi’u fforffedu yn dilyn dedfrydu.
Dywedodd Sarah Smith, Rheolwr Tîm yn Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru, am y ddedfryd: “Mae siarcod benthyg arian yn targedu pobl sydd mewn sefyllfa ddifrifol ac yn defnyddio bygythiadau i ariannu ffordd o fyw na all eu dioddefwyr ond breuddwydio amdani. Roedd hwn yn ganlyniad i’w groesawu mewn achos anodd gan na allem berswadio unrhyw ddioddefwyr i ddod ymlaen. Rydym yn annog unrhyw un sy’n ymwybodol o fenthyca arian anghyfreithlon i gysylltu â ni’n ddienw drwy ffonio 0300 123 3311 neu ymweld â’n gwefan.”
Mae Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru yn diogelu ac yn cefnogi dioddefwyr benthyca arian anghyfreithlon a throseddau cysylltiedig, yn ogystal ag ymchwilio ac erlyn siarcod benthyg arian yng Nghymru.
Maen nhw’n rhybuddio pobl rhag syrthio i drap siarc benthyg arian, a allai ymddangos yn gyfeillgar a chymwynasgar mewn cyfnod o angen, gan droi’n bresenoldeb bygythiol yn ddiweddarach; gallant ddechrau mynnu taliadau uwch neu hyd yn oed droi at drais.
Ychwanegodd Sarah: “Rydyn ni’n rhagweld y bydd yr argyfwng costau byw presennol yn gweld dioddefwyr benthyca arian anghyfreithlon yn cynyddu, gyda siarcod benthyg arian yn manteisio ar bobl mewn sefyllfaoedd ariannol ansicr. Mae newid wedi bod dros y ddwy flynedd ddiwethaf – y prif reswm dros fenthyg nawr yw talu am hanfodion bob dydd, fel bwyd a biliau.
“Os oes rhywun wedi benthyg arian gan siarc benthyg arian, neu’n nabod rhywun sydd wedi, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda – mae’r gefnogaeth ry’n ni’n ei chynnig yn ddiogel ac yn gyfrinachol, a dydyn ni ddim am i bobl ddioddef mewn tawelwch.”
Mae Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru hefyd wedi comisiynu ymchwil fanwl yn ddiweddar i ddatgelu gwir raddfa benthyca arian anghyfreithlon yng Nghymru. Dyma’r tro cyntaf i waith ymchwil penodol i Gymru gael ei gynnal ar fenthyca arian anghyfreithlon, a bydd yn cynnig gwybodaeth hanfodol i helpu Cymru i fynd i’r afael â’r mater mewn cymunedau ledled y wlad.
Os ydych chi’n poeni am eich sefyllfa eich hun, neu rywun rydych yn ei nabod, cysylltwch ag Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru ar 0300 123 3311 am gyngor a chefnogaeth ddiogel a chyfrinachol, neu ewch i www.atalsiarcodbenthygariancymru.co.uk.
Categorised in: Uncategorized @cy