Categories for Uncategorized @cy

Siarad Dysgu Gwneud

Mae dysgu eich plant am arian o oedran ifanc yn eu helpu i ddatblygu’r sgiliau y bydd eu hangen arnynt fel oedolion. Gallwn ddangos i chi sut i siarad â phlant 3 i 11 oed am arian.

ActionRehab Logo

ActionRehab

Rhywbeth sy'n aml yn cael ei anwybyddu yw'r doll ariannol sy'n dod ynghyd â ddibyniaeth.

Siarcod Arian Anghyfreithlon Yn Cymryd Mantais Ar Bwysau Costau Byw

Mae ymchwil newydd*, a gomisiynwyd gan Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru a Llywodraeth Cymru, yn cadarnhau ofnau y gallai’r caledi ariannol presennol ysgogi mwy o bobl yng Nghymru i fenthyca gan fenthycwyr arian anghyfreithlon, a elwir yn fwy cyffredin fel siarcod arian. Dywed 38% eu bod yn fwy tebygol o fod angen benthyg arian neu gredyd eleni i dalu costau bob dydd. Roedd 50% o'r rhai oedd yn benthyca angen arian ar gyfer costau byw bob dydd; o'r rheini, 66% ar gyfer bwyd a 53% i dalu biliau ynni. Pobl 18-34 oed sydd fwyaf agored i gael eu targedu gan fenthycwyr arian anghyfreithlon.

Bilingual Stop Loan Sharks Wales Logo

26.10.22 – Siarc Benthyg Arian Yn Llanelli Wedi’i Ddedfrydu I 10 Mis

Heddiw, cafodd dyn o Lanelli ei ddedfrydu i 10 mis o garchar wedi'i ohirio am flwyddyn. Ar 26 Awst 2022, plediodd Clayton Liston Rumbelow (49) o Lwynhendy, Llanelli yn euog i fenthyca arian yn anghyfreithlon hyd at werth o £100,000, yn ymwneud â thystiolaeth a ddarganfuwyd wrth weithredu gwarant yng nghyfeiriad cartref y diffynnydd.