Ara Gambling Service

Gambling Quiz
November 17, 2022 10:06 am

Mae pobl yn gamblo am sawl rheswm: i deimlo rhuthr adrenalin, ennill arian, cymdeithasu neu geisio dianc rhag pryderon neu straen. Fodd bynnag, mae rhai pobl yn gallu colli rheolaeth ar eu gamblo. Os ydych chi’n sylwi eich bod yn betio mwy na allwch chi fforddio ei golli, yn benthyca arian neu’n teimlo dan straen ac yn bryderus am gamblo, efallai bod gennych broblem.

Mewn sawl ffordd, gamblo anhrefnus neu broblemus yw’r math o ddibyniaeth sydd fwyaf tebyg i garbon monocsid.  Does dim modd ei weld na’i arogli fel y gallwch gyda dibyniaethau eraill fel alcohol a chyffuriau.  Yn achos pob person sy’n dioddef o gamblo problemus, credir ei fod yn effeithio ar 6-10 o bobl eraill.

I unigolion, gall niwed gamblo gynnwys colli mwy o arian nag sy’n fforddiadwy, amharu ar berfformiad gwaith, problemau iechyd meddwl a chorfforol, safonau byw is, dyled, methdaliad a phroblemau cyfiawnder troseddol. Gall gynnwys amharu ar bartneriaethau neu eu chwalu yn ogystal ag unigrwydd cymdeithasol ac emosiynol.

 

Poeni am eich arfer gamblo neu arfer gamblo rhywun arall?

Mae bob amser yn syniad da i fyfyrio ar eich ymddygiad gamblo a gofyn i chi’ch hun:

  • Ydych chi’n betio mwy nag y gallech chi fforddio ei golli?
  • Ydych chi’n ceisio ennill arian rydych wedi’i golli yn ôl?
  • Ydych chi wedi teimlo’n euog am y ffordd rydych chi’n gamblo neu beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n gamblo?
  • Ydy arfer gamblo rhywun arall wedi effeithio arnoch?

Os oes yw eich ateb, efallai y byddwch am ystyried cael peth cymorth.

 

Ara Gambling Service yw’r Darparwr Triniaeth Gamblo Cenedlaethol ar gyfer Cymru ac rydym yn darparu cymorth a thriniaeth am ddim i unrhyw un mae niwed gamblo’n effeithio arno. Mae’n hawdd cael eich atgyfeirio i’n gwasanaeth: gallwch ein ffonio ar 0330 1340 286 neu fynd i’n gwefan www.recovery4all.co.uk.

Categorised in: