Gwnaeth y Gwasanaeth Arian a Phensiynau gomisiynu adroddiad i adolygu'r dystiolaeth ddiweddaraf ar y bobl sy’n ariannol agored i niwed, gan ganolbwyntio'n benodol ar y rheiny sy'n defnyddio credyd i gael dau ben llinyn ynghyd.
Mae astudiaeth gan y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol yn amcangyfrif bod cymaint â 1.08 miliwn o bobl yn benthyca gan siarcod benthyg arian yn Lloegr. Mae hyn dros 700,000 yn fwy o bobl na'r amcangyfrif swyddogol diweddaraf.
Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi cael mwy o adroddiadau am fenthycwyr arian didrwydded yn defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Er mwyn i ni ddeall yn well, comisiynom Wordnerds i ymchwilio i fenthyca arian ar-lein yng Nghymru.