Wordnerds – ‘Understanding Money Lending Online in Wales’ (Mai 2021)

Bilingual Stop Loan Sharks Wales Logo
October 14, 2022 9:15 am

Understanding-Money-Lending-in-Wales-Version-2-1

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi cael mwy o adroddiadau am fenthycwyr arian didrwydded yn defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Er mwyn i ni ddeall yn well, comisiynom Wordnerds i ymchwilio i fenthyca arian ar-lein yng Nghymru.

Canfu’r adroddiad fod nifer cynyddol o ddinasyddion Cymru yn defnyddio Reddit i chwilio am fenthyciadau gan ddefnyddwyr eraill i gael dau ben llinyn ynghyd.

Mae’r rhan fwyaf o fenthyciadau ar gyfer symiau bach o arian ond mae’n destun pryder bod angen yr arian ar gyfer hanfodion bywyd fel bwyd a rhent. Roedd y rhan fwyaf o geisiadau am fenthyciad naill ai gan fyfyrwyr a oedd yn aros am eu taliad benthyciad myfyriwr, neu bobl sy’n hawlio budd-daliadau.

Mae’r adroddiad yn awgrymu ei bod yn ymddangos bod y pandemig wedi gwaethygu’r sefyllfa i bobl sy’n ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Ceir mwy o geisiadau am fenthyciadau gan fenthycwyr o Gymru sy’n sôn am y pandemig, y cyfnod clo neu ffyrlo na gan fenthycwyr o’r Alban neu Ogledd Iwerddon.

Y canfyddiad mwyaf brawychus oedd bod bron i draean (31%) o’r rheiny sy’n benthyca arian i fenthycwyr o Gymru heb unrhyw hanes o fenthyca, neu wedi eu gwahardd wedyn rhag defnyddio Reddit yn sgil torri amodau cyfrif. Awgrymodd yr adroddiad hefyd y gallai bron i hanner y rheiny sy’n benthyca arian fod wedi’u lleoli y tu allan i’r DU.

Pryder Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru yw nad yw’r math hwn o fenthyca wedi’i reoleiddio’n llwyr a’i fod yn agored i gamdriniaeth.  Cafwyd adroddiadau bod y rheiny sy’n benthyca arian yn gofyn am warant gyfochrog ar ffurf gwybodaeth breifat neu gyfrineiriau neu mewn achosion mwy eithafol, ffotograffau noeth.

Mae nifer y benthyciadau yn gymharol isel, ond nid ydym am anwybyddu’r duedd hon sy’n dod i’r amlwg. Yn anffodus, rydym yn gwybod y gall pobl sy’n ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd ddod yn dargedau hawdd i siarcod benthyg arian.

Hoffem siarad ag unrhyw un sydd wedi cael benthyciad drwy Reddit, neu unrhyw fath arall o blatfform cyfryngau cymdeithasol, boed eu profiadau’n dda neu’n ddrwg.

Ni fyddai unrhyw un mewn unrhyw drwbl am gael benthyciad drwy’r cyfryngau cymdeithasol, ond rydym am gael gwell dealltwriaeth o brofiadau unigol fel y gallwn ddiogelu a helpu’r rheiny sydd mewn perygl.

Gellir cysylltu ag Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru i gael sgwrs gyfrinachol ar 0300 123 3311.

Categorised in: