Author Archives for Ryan Evans

Siarcod Arian Anghyfreithlon Yn Cymryd Mantais Ar Bwysau Costau Byw

January 18, 2023 8:57 am Published by Leave your thoughts

Mae ymchwil newydd*, a gomisiynwyd gan Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru a Llywodraeth Cymru, yn cadarnhau ofnau y gallai’r caledi ariannol presennol ysgogi mwy o bobl yng Nghymru i fenthyca gan fenthycwyr arian anghyfreithlon, a elwir yn fwy cyffredin fel siarcod arian. Dywed 38% eu bod yn fwy tebygol o fod angen benthyg arian neu gredyd eleni i dalu costau bob dydd. Roedd 50% o'r rhai oedd yn benthyca angen arian ar gyfer costau byw bob dydd; o'r rheini, 66% ar gyfer bwyd a 53% i dalu biliau ynni. Pobl 18-34 oed sydd fwyaf agored i gael eu targedu gan fenthycwyr arian anghyfreithlon.