Roedd gen i swydd dda ond roedd yn rhaid i mi roi’r gorau iddi pan oeddwn i’n sâl ac angen cyfres o lawdriniaethau.
Roedd yn rhaid i mi aros mor hir i’m budd-daliadau gael eu gweithredu nes ein bod ni’n rhedeg allan o arian yn gyflym, felly dechreuais fenthyca gan fenthyciwr arian lleol. Roedden nhw wedi bod o gwmpas ers blynyddoedd, roeddwn i’n gwybod nad oedden nhw’n gyfreithlon, ond gyda chyn lleied yn dod i mewn, pwy fyddai’n benthyg i ni? Doeddwn i ddim yn gallu fforddio bwyta, heb sôn am fynd i’r ysbyty.
Ar y dechrau, roedd yn achubiaeth, ond po hiraf y cymerodd i’m budd-daliadau gyrraedd, y mwyaf o fenthyciadau y bu’n rhaid i mi eu gwneud. Erbyn i’m budd-daliadau gyrraedd, roeddwn i mewn cymaint o ddyled, cyn gynted ag y byddwn i wedi talu’r benthyciwr, roeddwn i’n gorfod gwneud benthyciad arall. Fe gyrhaeddodd y pwynt lle roedden ni’n ceisio byw oddi ar ddim ond £100 y mis. Byddwn i’n trosglwyddo ein holl arian am y mis iddyn nhw a bydden nhw’n rhoi mymryn o arian yn ôl i mi fel benthyciad arall.
Doeddwn i ddim eisiau siarad ag Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru ond fe wnaeth fy nheulu fy argyhoeddi. Roedden nhw’n ddefnyddiol iawn ac yn fy helpu i sylweddoli bod ffordd allan, roedden nhw wedi trefnu pethau er mwyn i mi allu talu’r benthyciad a bod yn rhydd ohonyn nhw.
Dywedais wrthyn nhw beth oedd wedi digwydd, ac fe wnaethon nhw arestio’r siarc benthyg arian a doeddwn i byth yn gorfod talu eto. Roedd hyn i gyd ychydig cyn y Nadolig felly dyma’r tro cyntaf ers blynyddoedd i ni fforddio cinio Nadolig.
Fe wnaethon nhw bledio’n euog felly doedd dim rhaid i mi fynd i’r llys, mae’n debyg bod yna lawer mwy o bobl fel fi. Roeddwn i’n poeni am yr hyn y byddai’n digwydd pe bawn i’n eu gweld, ond dydyn nhw ddim hyd yn oed yn edrych arna i, maen nhw’n gwybod eu bod nhw wedi gwneud rhywbeth o’i le a dydyn nhw ddim eisiau bod mewn mwy o drafferth.
Dydw i ddim yn gallu credu ein bod ni wedi byw fel y gwnaethon ni am gymaint o amser.
Categorised in: Story @cy