Fel mam i 4 o blant sy’n sengl ac yn gweithio, cefais fy hun mewn sefyllfa anodd ar ôl benthyca arian gan “ffrind”.
Yn fuan iawn, fe drodd hyn yn ddrwg ac yn fygythiol pan oeddwn i’n cael trafferth gwneud ad-daliadau. Doeddwn i ddim yn gallu ymdopi yn ariannol, nac yn feddyliol, ac roeddwn i’n absennol o’r gwaith yn sâl yn y diwedd.
Roeddwn i’n ofni y byddai’r siarc benthyg arian yn dod i’m tŷ, a doeddwn i ddim eisiau gadael y tŷ rhag ofn i mi ei weld. Roeddwn i’n ddigalon ac yn isel. Ffrind a ddywedodd wrtha i am Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru, ond doeddwn i ddim yn awyddus i gysylltu.
Roeddwn i’n ofni fy mod wedi gwneud rhywbeth o’i le, ac y byddai pobl yn meddwl fy mod i’n wirion. Mewn gwirionedd, fy ffrind wnaeth ffonio’r rhif ac yna rhoi’r ffôn i mi. Doedd gen i ddim dewis. Roeddwn i’n synnu fy mod i’n siarad â pherson go iawn. Roeddwn i’n meddwl efallai y byddai’n awtomataidd, neu y byddai’n rhaid i mi adael neges neu rywbeth, ond fe siaradais ag aelod o’r tîm.
Ar y dechrau, doeddwn i ddim yn rhoi llawer o wybodaeth i Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru oherwydd roeddwn i’n ofnus ond cadwodd y tîm mewn cysylltiad â mi ac ni wnaethon nhw erioed wneud i mi deimlo unrhyw bwysau i ddweud, na gwneud, unrhyw beth. Ar ôl cwpl o wythnosau, cwrddais â’r person roeddwn i wedi bod yn siarad ag ef, ac roedd yn dda gweld wyneb cyfeillgar ac roeddwn i’n teimlo’n dawel fy meddwl. Yn ddiogel rhywsut.
Penderfynais roi mwy o wybodaeth i’r tîm a rhoddais ddatganiad. Cefais gymorth drwy’r broses gyfan; roedd y tîm yn gyfeillgar iawn ac yn agos-atoch ac nid oedden nhw’n fy marnu nac yn meddwl fy mod i’n hurt am fynd at siarc benthyg arian. Cefais fy helpu gyda’m holl ddyledion, nid dim ond y ddyled i’r siarc benthyg arian, cefais fy helpu gyda fy sefyllfa o ran tai ac roedd fy mhwynt cyswllt dynodedig o fewn y tîm ar gael pryd bynnag roeddwn i ei angen. Roeddwn i’n gallu ei ffonio i siarad, i ofyn am gyngor, unrhyw help roeddwn i ei angen ac roeddwn i’n dawel fy meddwl oherwydd hynny. Mae tîm Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru wedi newid fy mywyd. Rydw i’n teimlo fel fi eto. Byddwn i’n dweud wrth unrhyw un sy’n ymwneud â siarc benthyg arian i gysylltu â’r tîm. Byddwch chi’n siarad â pherson go iawn sy’n deall ac yn gallu eich helpu.
Categorised in: Story @cy